Digwyddiad

Byddwch yn arbennig yn yr Eisteddfod eleni!

Does dim rhaid bod yn wyddonydd o fri, yn archarwr neu yn dofwr llewod i fod yn arbennig – os fyddwch chi yn ymwled a’r Eisteddfod yn Sir Gâr dros yr wythnos nesaf mi allwch wneud gwahaniaeth mawr…

1st August 2014, 2.01pm | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Gwnewch rhywbeth arbennig yn yr Eisteddfod eleni: rhown ddiwedd ar stigma iechyd meddwl!

 

Does dim rhaid bod yn wyddonydd o fri, yn archarwr neu yn dofwr llewod i fod yn arbennig – os fyddwch chi yn ymwled a’r Eisteddfod yn Sir Gâr dros yr wythnos nesaf mi allwch wneud gwahaniaeth mawr trwy ymweld a’n stondyn (517/518) a dechrau eich sgwrs chi am iechyd meddwl!

 

Os ydych chi’n teimlo fel ychydig o hwyl a sbri, mi allwch gamu mewn i esgudiau un o’n cymeriadau ‘arbennig’, ond mi fydd croeso mawr os oes well gennych galw heibio am baned a darganfod mwy am y pethau bach all wneud gwahaniaeth mawr  i ffrindiau, teulu neu gydweithwyr pan fod ganddynt broblem iechyd meddwl.  

 

Dyma beth sy’n digwydd ar y stondyn:

 

  • Ydych chi wedi darllen ein blogiau? Dewch i gwrdd a rhai o’n Eiriolwyr gwych sydd yn rhannu eu straeon i helpu i bobl ddeall mwy am fyw gyda salwch meddwl.
  • Byddwch yn arbennig! Mi fydd rhai o’r cymeriadau o’n ymgyrch Bydd yn Arbennig ar y stondyn ac mi allwch hyd yn oed rhoi tro ar fod yn ninja, gofodwr neu tylwythen teg!
  • Dewch i gwrdd a tîm Amser i Newid Cymru i ddarganfod sut i ddod a’r ymgyrch i eich gweithle neu grwp.
  • Galwch heibio am baned ac i glywed rhagor am y pethe bach y gallwch chi wneud i helpu rhywun yr ydych chi yn nabod sydd a problem iechyd meddwl.

 

Mi fyddwn ni yma drwy’r wythnos felly dewch i gwrdd a ni ar stondyn 517/518. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yna!

 

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy