Cwestiynau cyffredin

Dyma'r cwestiynau mwyaf cyffredin a gawn am Amser i Newid Cymru. Os oes gennych ymholiad, mae siawns dda y gwelwch yr ateb iddo isod. Os na, anfonwch e-bost atom a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y gallwn.

Anfon e-bost

1. Beth yw Amser i Newid Cymru?

Amser i Newid Cymru yw'r ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.

2. Ble rydych wedi eich lleoli?

Mae gennym aelodau staff a Hyrwyddwyr ledled Cymru ac mae ein prif swyddfa yng nghanol Caerdydd.

3. Sut y gallaf gysylltu â chi?

Ewch i'r dudalen cysylltu â ni ar y wefan hon.

4. Pwy yw'r sefydliadau sy'n cyflwyno'r ymgyrch a sut y caiff ei hariannu?

Cyflwynir Amser i Newid Cymru gan bartneriaeth o ddwy elusen iechyd meddwl arweiniol yng Nghymru, sef Mind Cymru a Hafal. Fe'i hariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, Comic Relief a Llywodraeth Cymru. Rhagor o wybodaeth.

5. Sut y caiff yr arian hwn ei wario?

Caiff arian Amser i Newid Cymru ei rannu'n weddol gyfartal rhwng tri phrif ffrwd gwaith, ac mae arian hefyd ar gyfer tîm canolog bach a Rheolwr y Rhaglen. Y ffrydiau gwaith hyn yw: hyfforddiant, arweinyddiaeth gymdeithasol (goruchwylio ein hyrwyddwyr a phrosiectau cymunedol) a marchnata cymdeithasol.

6. Sut y gallaf wirfoddoli ar gyfer yr ymgyrch neu gyflwyno blog?

Mae pob un o'n gwirfoddolwyr a'n blogwyr yn Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddod yn hyrwyddwr yma - cofrestrwch a byddwn yn cysylltu â chi eto gyda manylion am sut i fod yn rhan o'r ymgyrch.

7. Pam rydym yn defnyddio'r iaith a ddefnyddiwn i siarad am iechyd meddwl?

Bydd dod o hyd i'r iaith 'iawn' i ddisgrifio profiadau pobl o broblemau iechyd meddwl bob amser yn anodd. Nid oes un term nac un gyfres o dermau y mae pawb yn cytuno arnynt. Rydym yn ceisio defnyddio geiriau y mae'r cyhoedd - yr ydym yn ceisio newid eu hagweddau a'u hymddygiad - yn fwyaf tebygol o'u deall. Mae'r termau "problem iechyd meddwl" a "salwch meddwl", yn ogystal ag enwau diagnostig penodol (er enghraifft iselder, anhwylder deubegynol ac ati) yn cael eu defnyddio a'u deall yn eang gan bobl y tu allan i'r 'byd iechyd meddwl', a dyna pam rydym yn eu defnyddio.

Rydym yn parchu'r ffaith bod rhai pobl yn gwrthod unrhyw fath o label, ac nid yw rhai yn gweld eu profiadau fel salwch neu broblem o gwbl. Rydym hefyd yn parchu'r ffaith bod rhai pobl yn deall eu profiad yn well yn nhermau salwch, ac mae diagnosis meddygol yn ffordd ddefnyddiol o siarad amdano, a chael cymorth am yr hyn y maent yn ei wynebu. O fewn Amser i Newid Cymru, a'r sefydliadau sy'n cyflwyno'r ymgyrch (Hafal a Mind Cymru), mae llawer o bobl â phrofiad ymarferol nad ydynt o reidrwydd yn rhannu'r un farn.

Nid ydym yn credu mai ein rôl ni yw penderfynu pa safbwynt sy'n 'gywir', na dweud wrth bobl pa iaith y dylent ei defnyddio er mwyn siarad am eu profiadau eu hunain. Mae blogwyr a hyrwyddwyr eraill Amser i Newid Cymru sy'n cyhoeddi ar y wefan hon yn dewis yr iaith sydd fwyaf priodol iddynt hwy, yn eu barn hwy. Rydym yma i helpu i wella agweddau ac ymddygiad y cyhoedd tuag at y rheini ohonom y mae problem iechyd meddwl yn effeithio arnom. Dim ond drwy ddefnyddio’r iaith y mae pobl yn ei deall y gallwn sicrhau hyn.

8. A yw Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru yn cael eu talu am eu gwaith?

Na. Mae Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru yn cefnogi yr ymgyrch yn gwbl wirfoddol. Mae hyrwyddwyr yn derbyn ad-daliad am unrhyw gostau teithio a chynhaliaeth yn gysylltiedig â gweithgaredd Amser i Newid Cymru. 

Polisi sylwadau ar flogiau a chyfryngau cymdeithasol

Gall siarad yn gyhoeddus am iechyd meddwl fod yn anodd iawn. Rydym am drechu'r stigma hwn drwy annog pobl i siarad am iechyd meddwl ym mhob agwedd o fywyd.

Dyna pam mae straeon personol wrth graidd ein hymgyrch. Mae dewrder unigolion sy'n fodlon siarad ar ein gwefan, yn y cyfryngau neu ar gyfryngau cymdeithasol am eu profiadau eu hunain yn ffordd bwerus ac ysbrydoledig o drechu stigma ac annog pobl eraill i ddod ymlaen a rhannu eu straeon.

Pam ydych chi'n goruchwylio sylwadau?

Rydym yn croesawu ac yn annog eich sylwadau, trafodaethau a gwahanol safbwyntiau. Rydym am i bobl deimlo bod modd iddynt drafod profiadau personol mewn amgylchedd diogel, parchus.

Er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo bod modd iddynt ymuno â thrafodaethau ar-lein, rydym yn goruchwylio sylwadau ar ein blogiau a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Facebook.

Ein rheolau ar sylwadau

Dylai pob sylw fod yn ystyriol ac yn barchus a gallem ddileu sylwadau (neu yn achos ein blogiau, peidio â chyhoeddi sylwadau) sydd:

  • yn sarhaus, yn fygythiol, yn ddialgar, yn ymosodol (yn bersonol neu ddim) mewn unrhyw fodd
  • yn anghyfreithlon e.e. postio cynnwys sy'n groes i hawlfraint
  • yn ailadrodd dro ar ôl tro neu'n amherthnasol i brif drywydd y drafodaeth
  • yn achosi straen emosiynol neu'n fanwl o ran hunanladd neu hunan-niwed
  • yn hysbysebu cynnyrch neu wasanaethau masnachol
  • yn siarad am achosion cyfreithiol parhaus â chyflogwyr
  • yn hyrwyddo mathau penodol o driniaeth neu therapi
  • yn cynnwys cyfeiriad e-bost neu unrhyw fath arall o fanylion cyswllt. Cofiwch fod cyfryngau cymdeithasol yn agored i bawb ac y dylech fod yn ofalus o ran i bwy rydych yn rhoi eich manylion. Yn achos sylwadau ar flogiau, os hoffech gysylltu â rhywun, ewch i dudalen Cysylltu â ni Amser i Newid Cymru
  • yn achos sylwadau ar flogiau, yn gofyn i bobl am waith cyfryngau, prosiectau ysgol neu ymchwil. Os hoffech gysylltu â blogiwr ynglŷn ag unrhyw beth, ewch i dudalen Cysylltu â ni Amser i Newid Cymru

Os bydd rhywun yn gwneud sylw sarhaus, bygythiol, dialgar neu ymosodol ar flog, bydd Amser i Newid Cymru'n rhwystro'r person hwnnw rhag mynd ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Ydych chi'n cysylltu â phobl i roi gwybod iddyn nhw bod eu sylw wedi'i ddileu?

Weithiau, byddwn yn cysylltu ag unigolion yn breifat os nad yw'r rheswm dros ddileu'r sylw yn debygol o fod yn glir.

Beth os ydy rhywun yn gwneud sylw pan fydd e/hi'n sâl?

Gall gwybod sut bydd person yn teimlo pan fydd yn ysgrifennu sylw fod yn anodd. Felly byddwn yn gweithredu'r un egwyddorion i oruchwylio pob sylw. Diben hyn yw gwarchod yr unigolyn yn ogystal â'r gymuned.

Fodd bynnag, os bydd yn amlwg bod rhywun yn ei chael yn anodd neu os bydd mewn argyfwng, byddwn yn cysylltu â'r person hwnnw i roi manylion cyswllt gwasanaethau cymorth priodol iddynt.